Caiff darpariaeth dysgu oedolion yn Abertawe ei chydlynu trwy Bartneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS). Caiff y brif ddarpariaeth dysgu oedolion a ariennir gan Lywodraeth Cymru ei chyflwyno gan Wasanaeth Dysgu Gydol Oes y Cyngor ac Addysg Oedolion Cymru. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn darparu rhaglen o gyrsiau oedolion a gyflwynir gan ddefnyddio cyllid addysg bellach ran-amser. Mae’r bartneriaeth yn dod ag ystod o sefydliadau eraill ynghyd sy’n darparu addysg oedolion, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (SCVS) a Dysgu Cymraeg - Ardal Bae Abertawe.
Addysg Oedolion Cymru yw sefydliad dysgu oedolion yn y gymuned cenedlaethol Cymru, ac mae wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol a datblygu sgiliau yn ardaloedd pob un o’r 22 awdurdod lleol..
Addysg Oedolion Cymru
4ydd Llawr
Ty'r Dywysoges
Ffordd y Dywysoges
Abertawe
SA1 3LW
Ffôn
03300 580845
E-bost
courseinfowest@addysgoedolion.cymru
Mae rhaglen addysg oedolion y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes yn cynnwys darpariaeth mewn:
Sgiliau Hanfodol
Dysgu fel Teulu
TG a Llythrennedd Digidol
Cyrsiau Dysgu Oedolion yn y Gymuned
Cyngor Abertawe
Ganolfan Ddinesig
Heol Ystumllwynarth
Abertawe
SA1 3SN
Ffôn
01792 637101
E-bost
dysgu.gydoloes@abertawe.gov.uk
Mae Coleg Gŵyr Abertawe’n cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau dysgu oedolion rhan amser ar draws pob campws ac yn y gymuned. Mae’r cyrsiau’n amrywio o Lythrennedd Digidol, Rhifedd ac ESOL i'r Celfyddydau Gweledol ac Adeiladu. Gellir cynnig rhai o’r cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein gwefan.
Coleg Gŵyr Abertawe
Heol Tycoch
Sgeti
Abertawe
SA2 9EB
Ffôn
01792 284000
E-bost
enquiries@gowercollegeswansea.ac.uk
Mae Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe yn darparu ystod o gyrsiau gwahanol ar lefelau Mynediad i Hyfedredd gan gynnwys cyrsiau prif ffrwd Cymraeg i Oedolion, Cymraeg yn y Gweithle, Cymraeg i’r Teulu a Chymraeg Gwaith. Mae hefyd yn darparu rhaglen o gyfleoedd dysgu anffurfiol i ddysgwyr ymarfer ac ymestyn eu medrau Cymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth.
Dysgu Cymraeg - Ardal Bae Abertawe
Academi Hywel Teifi
Adeilad Talbot -Prifysgol Abertawe
Abertawe
SA2 8PP
Ffôn
01792 602070
E-bost
dysgucymraeg@abertawe.ac.uk
Prifysgol sy'n cael ei harwain gan ymchwil yw Prifysgol Abertawe, sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae ein cymuned amrywiol a chroesawgar yn ffynnu ar archwilio a darganfod, gyda chydbwysedd o addysgu ac ymchwil rhagorol, ynghyd ag ansawdd bywyd gwych.
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP
Ffôn
01792 205678
E-bost
astudio@swansea.ac.uk
Mae Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe'n cefnogi, yn datblygu ac yn cynrychioli sefydliadau gwirfoddol, gwirfoddolwyr a chymunedau ar draws Abertawe.
Cyngor Gwasanaeth
Gwirfoddol Abertawe
Canolfan Gweithredu Gwirfoddol
7 Walter Road
Abertawe
SA1 5NF
Ffôn
01792 544000
E-bost
scvs@scvs.org.uk
Prifysgol Cymru
Y Drindod Dewi Sant
Swansea Waterfront
IQ Campus
Swansea
SA1 8EW
Ffôn
0300 500 5054
E-bost
admissions@uwtsd.ac.uk
Mae Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe yn falch o rannu dolenni’r adroddiadau arolygu diweddaraf a blaenorol o'i waith ar draws Dinas a Sir Abertawe.
Estyn yw ‘Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru’. Mae hyn yn golygu y bydd Estyn yn arolygu addysg a hyfforddiant ledled Cymru.
Yn Gymraeg, gellir defnyddio’r gair ‘Estyn’ yn yr ymadrodd ‘estyn allan' neu fel gair sy’n gyfystyr â’r ferf to stretch yn Saesneg.
Gweledigaeth y sefydliad yw gwella ansawdd addysg a hyfforddiant, a chanlyniadau, er lles pob dysgwr yng Nghymru. Ei genhadaeth yw cynorthwyo darparwyr addysg a hyfforddiant i ddatblygu diwylliant sy’n rhoi pwyslais ar hunan-wella a dysgu gwersi, trwy gyfrwng ei waith cynghori, arolygu a meithrin gallu.