Addysg Oedolion Cymru yw'r sefydliad cenedlaethol dros addysg oedolion yn y gymuned yng Nghymru, ac mae wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol a datblygu sgiliau yn ardaloedd pob un o’r 22 awdurdod lleol.
Mae darpariaeth Addysg Oedolion Cymru yn ymwneud yn bennaf gyda chyrsiau SSIE (ESOL) cyffredinol a rhai ar gyfer cyd-destunau penodol, a chyrsiau ym maes Dysgu fel Teulu hefyd.
Mae bron iawn holl ddarpariaeth AOC yn ddarpariaeth wyneb yn wyneb, ac mae’r ddarpariaeth ar gael yn ei ‘Hwb Dysgu Abertawe’ yn Princess Way ac mewn nifer o leoliadau cymunedol ledled canol dinas Abertawe a’i maestrefi.
Trwy gyfrwng prosiect REACH, mae Addysg Oedolion Cymru yn cydweithio’n agos gyda Choleg Gŵyr, Abertawe, i gynnig darpariaeth SSIE (ESOL) ledled y ddinas. Mae Addysg Oedolion Cymru hefyd yn bresennol yn Hwb Asesu REACH yn Kingsway, yng nghanol y ddinas. Yr Hwb yw lleoliad gwaith Aseswr SSIE REACH AOC, sy’n cydweithio’n agos ag Aseswr SSIE REACH Coleg Gŵyr, ynghylch asesiadau cychwynnol ar gyfer dysgwyr SSIE.
Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydweithio’n agos gyda Gwasanaeth Gydol Oes Abertawe (sy’n rhan o’r awdurdod lleol) i gynnig darpariaeth Gwaith Saer a Gwaith Coed ar gyfer ei ddysgwyr, yn ‘Hwb Dysgu Port Talbot’ Addysg Oedolion Cymru yn y sir gyfagos sef Castell-nedd Port Talbot. Yno, caiff dysgwyr fwynhau dosbarthiadau gwaith saer, gwaith coed, a phyrograffeg a chelf goed.
Mae gan Addysg Oedolion Cymru nifer o bartneriaethau sydd wedi’u sefydlu ers tro byd â sefydliadau’r trydydd sector yn Abertawe, er enghraifft, Canolfan y Gymuned Affricanaidd, SASS, Faith in Families a nifer o ysgolion cynradd lleol. Mae Addysg Oedolion Cymru yn rhedeg dosbarthiadau SSIE a Dysgu fel Teulu ym mannau cyfarfod y sefydliadau hyn, er budd defnyddwyr eu gwasanaethau a theuluoedd.