Gweithio gyda’n gilydd i ysbrydoli a thyfu
Mae “Swansea City Centre” gan Numero007 wedi'i drwyddedu o dan CC BY-SA 4.0
Mae Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS) yn gweithio i ddarparu ystod eang o gyrsiau achrededig ac anachrededig ar draws dinas a sir Abertawe i ddiwallu anghenion dysgu amrywiol y dysgwyr.
Fel aelod o Rwydwaith Byd-eang UNESCO o Ddinasoedd sy'n Dysgu, mae Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe wedi ymrwymo i ddarparu addysg hygyrch ac o ansawdd uchel i oedolion sy'n ddysgwyr o bob cefndir. Ein cenhadaeth yw grymuso ein dysgwyr â'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu nodau personol a phroffesiynol, a chreu cymuned gefnogol sy'n meithrin dysgu gydol oes. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiadau addysgol arloesol ac atyniadol sy'n diwallu anghenion amrywiol ein dysgwyr, ac i feithrin diwylliant o chwilfrydedd, archwilio a thwf. Ein nod yw ysbrydoli ein dysgwyr i ddod yn ddysgwyr gydol oes ac yn ddinasyddion gweithgar sy'n gwneud cyfraniadau cadarnhaol i'w cymunedau a'r byd o'u cwmpas.
13/11/2024
Yr wythnos hon, cynhaliwyd digwyddiad i arddangos gwaith oedolion sy’n ddysgwyr er mwyn dathlu Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS). Cafodd y digwyddiad dathlu ei gynnal ar 7 Tachwedd ochr yn ochr â digwyddiad cynllunio UNESCO. Mynychodd grwpiau dysgu ffurfiol ac anffurfiol y digwyddiad er mwyn helpu i gynllunio dathliadau degfed pen blwydd Dyfarniad Dinas sy’n Dysgu UNESCO.
Cafodd ymwelwyr gyfle i sgwrsio â myfyrwyr gan ddysgu am y gwaith celf a oedd yn hongian ar waliau Neuadd Siôr yn Neuadd Brangwyn. Cyflwynwyd yr holl waith a arddangoswyd gan oedolion sy’n dysgu ar draws Abertawe.
Ariennir Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS) gan Lywodraeth Cymru a bwriad y bartneriaeth yw annog amrywiaeth o sefydliadau blaenllaw i weithio gyda’i gilydd i gynnig cyrsiau achrededig ac achrededig hyd a lled Abertawe, er mwyn diwallu anghenion amrywiol dysgwyr.
Hoffem ddiolch yr holl fyfyrwyr a staff sy’n rhan o’r bartneriaeth am rannu eu gwaith gwych ac am roi o’u hamser i fynd i’r digwyddiad.
darllenwch yr erthygl lawn
07/10/2024
Dros fisoedd yr haf, mae rhai o aelodau ein tîm wedi bod yn bresennol mewn nifer o ddigwyddiadau sy’n hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg a darpariaeth Ddwyieithog, sy’n gymorth i gefnogi strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Rydym wedi gwneud y fideo isod i ddangos ymrwymiad parhaus Addysg Oedolion Cymru i ddarpariaeth Cymraeg a Dwyieithog yn Abertawe, wrth gefnogi dysgwyr yn yr ardal i ymgysylltu gyda’r iaith ac i wella eu sgiliau iaith.
Mae'r fideo hefyd wedi rhoi cyfle i ni amlygu sut mae ein mentrau Cymraeg a Dwyieithrwydd dros Gymru gyfan yn cael eu gweithredu 'ar lawr gwlad' yn lleol.
Mae’n fideo hynod o ddiddorol ar sut rydym fel sefydliad yn gweithio tuag at ‘Cymraeg 2050’ gyda’n dysgwyr, tiwtoriaid a phartneriaid tuag at ymgorffori’r Gymraeg yn y cwricwlwm.
- Addysg Oedolion Cymru
09/10/2024
Mid Medi yw dechrau’r flwyddyn academaidd newydd yma yn ‘Hwb Dysgu Abertawe’ AOC, ac yn ei lleoliadau eraill yn y gymuned – yr YMCA a Chanolfan Pobl Fyddar Abertawe.
Eleni, rydym yn rhedeg 6 dosbarth amser llaw, 15 dosbarth rhan amser, 3 dosbarth ESOL â chyd-destun penodol yn ogystal ag 8 o wahanol ddosbarthiadau yn y gymuned sydd wedi’u sefydlu ar y cyd â’n partneriaid – Canolfan y Gymuned Affricanaidd a SASS.
Mae dysgwyr o 25 o wledydd gwahanol wedi cofrestru i gyfranogi yn ein cyrsiau!
Dywedodd Sam Al-khanchi, ein Cydlynydd Datblygu’r Cwricwlwm yn Abertawe, “Mae’r wych bob amser cael croesawu dysgwyr newydd a rhai sy’n dychwelyd! Bob blwyddyn, byddwn yn ceisio sicrhau bod y profiad dysgu yr ydym yn ei gynnig yn well fyth!!”
- Addysg Oedolion Cymru
07/10/2024
Mae penderfyniad Alan Hardie i aros yn bositif a chadw'i ymennydd yn actif ar ôl dioddef strôc ddwy flynedd yn ôl yn 56 oed yn ysbrydoli pawb mae'n cwrdd â nhw.
Yn wreiddiol, gadawodd y strôc Alan, 57, sy'n byw yn Nhregŵyr, Abertawe, gyda gwendid ochr dde ac anawsterau lleferydd ysgafn. Mae'n parhau â'i therapi ei hun i wrthsefyll anawsterau symudedd.
Roedd yn teimlo'n ynysig nes iddo ymuno â dosbarth ysgrifennu creadigol i oedolion a gynhaliwyd gan Wasanaeth Dysgu Gydol Oes Dinas a Sir Abertawe yn Llyfrgell Gorseinon y llynedd.
Clywodd am y dosbarth gan Grŵp Goroeswyr Strôc Abertawe ac mae'n dweud bod ysgrifennu am ei strôc ac anhwylder straen wedi trawma (PTSD) wedi bod yn "hynod o gathartig".
I gydnabod ei daith ddysgu gydol oes, mae Alan wedi cael canmoliaeth uchel yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2024.