GDGO Cyngor Abertawe
Cyngor Abertawe

Cyngor Abertawe
Gwasanaeth Dygu Gydol Oes

Darpariaeth Oedolion

Mae rhaglen addysg oedolion y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes yn cynnwys darpariaeth mewn:

  • Sgiliau Hanfodol

  • Dysgu fel Teulu

  • TG a Llythrennedd Digidol

  • Cyrsiau Dysgu Oedolion yn y Gymuned

Mae'r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes yn defnyddio amrywiaeth o leoliadau i gyflwyno ei raglen addysg oedolion gan gynnwys:

 

Adeiladau'r cyngor

Canolfannau cymunedol

Ysgolion

Lleoliadau partner

 

Mae'r rhan fwyaf o'r ddarpariaeth Gwasanaeth Dysgu Gydol wedi dychwelyd i sesiynau wyneb yn wyneb, er bod tua 10 sesiwn yn parhau ar-lein. Cynhelir y sesiynau wyneb yn wyneb mewn dros 20 o leoliadau ar draws y sir..

Gweithio mewn partneriaeth

Mae'r gwasanaeth yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i ddarparu pwyntiau mynediad cyntaf hygyrch i addysg oedolion.

 

Mae Dysgu Gydol Oes yn cynnig ystod eang o gyrsiau Dysgu Oedolion yn y Gymuned ar draws Abertawe gan gynnwys celf a chrefft, TG a llythrennedd digidol, cyrsiau ymarferol, ffotograffiaeth ddigidol, coginio a hylendid bwyd, iechyd a lles, cerddoriaeth, trefnu blodau a blodeuwriaeth ar gyfer gwaith, crefft nodwydd a mwy.

 

Mae darpariaeth sgiliau hanfodol y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes yn amrywio o gyn-fynediad i lefel 2 mewn llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol. Mae'r gwasanaeth yn darparu dosbarthiadau sgiliau hanfodol a chefnogaeth i ystod o bartneriaid cyflogadwyedd. Mae'r gwasanaeth yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi rhagolygon cyflogadwyedd cleientiaid drwy gefnogaeth sgiliau a chyfleoedd achrediad.

 

Mae'r gwasanaeth yn gweithio gydag ysgolion i gynnig rhaglen dysgu fel teulu ar draws Abertawe. Datblygwyd ystafell ddosbarth dysgu fel teulu ar-lein yn ystod y cyfyngiadau symud i gefnogi addysgu gartref rhieni. Mae dosbarthiadau dysgu fel teulu bellach wedi ailddechrau wyneb yn wyneb.

 

Mae'r gwasanaeth yn cynnig nifer bach o gyrsiau cyflogadwyedd gyda'r nod o gefnogi unigolion i ddod o hyd i gyflogaeth gan gynnwys o fewn y maes arlwyo, gwnïadyddiaeth, trin gwallt a blodeuwriaeth. Cefnogir y cyrsiau achrededig hyn yn rhannol gan Gymunedau am Waith. Mae rhaglen gyflwyno’r gwasanaeth yn cynnwys ystod o gyrsiau celfyddydau gweledol a lles, sy’n cyfoethogi bywydau dysgwyr y tu allan i’r ystafell ddosbarth drwy ymgysylltu â chyrff cenedlaethol, arddangosfeydd ac arddangosiadau.

 

Mae'r gwasanaeth yn gweithio o fewn Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe i ddarparu llwybrau dysgu clir a blaengar o'r man cychwyn i ddarpariaeth AB/AU achrededig.