Blodeuwriaeth ar gyfer Waith

Stori JJ

open quote
close quote

Fy enw yw JJ O’Neil, rwy'n 16 oed ac yn werthwr blodau dan hyfforddiant yn ne Cymru. Mi es i i ddosbarth Blodeuwriaeth ar gyfer Gwaith y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes a fy nhiwtor yw Liz Gordon.

 

Byth ers y gallwn gofio, dwi bob amser wedi mwynhau bod yn greadigol. Fodd bynnag, dim ond yn ddiweddar y gwnes i ddarganfod fy awch am flodeuwriaeth.

 

Dechreuodd fy nhaith flodeuol ym mis Mai 2022. Pan oeddwn ar drip siopa ar gyfer fy mhen-blwydd, penderfynais brynu rhai tuswau o flodau i weld beth gallwn ei greu. Hwn oedd fy nhrefniad blodau cyntaf erioed. Ar ôl i mi greu'r trefniad, penderfynais ei fod yn rhy fawr i ffitio'n gyfforddus yn y tŷ. Felly yn lle, anfonais neges at fy eglwys leol i weld a hoffent ei gael ar gyfer gwasanaethau'r penwythnos.

 

Roedd gweld y blodau yn yr eglwys wir wedi fy ysbrydoli a dangosodd i fi sut gall blodau newid lle yn gyfan gwbl. Yna mi ddes i'n drefnydd blodau ar gyfer yr eglwys ac rwyf wedi bod yn dysgu, gan gynyddu fy sgiliau, ac yn creu trefniadau blodau i sirioli'r eglwys bob wythnos ac ar achlysuron arbennig ers hynny.

Enghreifftiau o waith flodeuwriaeth JJ - Y cynnig buddugol yn Sioe Gŵyr
open quote

Mae bod yn drefnydd blodau ar gyfer yr eglwys wedi cynnig cynifer o gyfleoedd i mi yr wyf mor ddiolchgar amdanyn nhw.

 

Ar ddiwedd mis Gorffennaf, ar ôl bod yn creu trefniadau blodau am 3 mis yn unig, penderfynais gymryd rhan yn fy nghystadleuaeth gyntaf, Sioe Gŵyr. Thema'r sioe oedd Jiwbilî Blatinwm y Frenhines. Cymerais ran mewn tri chategori ac enillais yr adran i ddechreuwyr. Agorodd hyn fy llygaid i'r cyfleoedd o'm blaen ar ôl i fi orffen yn yr ysgol.

 

Ar ôl i fi orffen fy arholiadau TGAU ym mi Gorffennaf, ces i anhawster penderfynu ynghylch beth roeddwn i am ei wneud nesaf. Ar ôl ystyried yn ofalus, penderfynais gymryd cam mawr a pheidio â mynd i'r coleg, ond dilyn fy mrwdfrydedd dros flodau a dod yn werthwr blodau dan hyfforddiant.

 

Yn y cyfamser, wrth chwilio am gyfleoedd swydd fel gwerthwr blodau dan hyfforddiant, cofrestrais ar rai cyrsiau blodeuwriaeth gyda'r gwasanaeth Dysgu Gydol Oes i geisio dysgu mwy am y diwydiant. Mae'r cyrsiau hyn wedi bod yn hanfodol yn fy nhaith. Mae cwrdd â phobl o'r un anian, a gwerthwyr blodau, wedi fy helpu i fagu hyder a dysgu mwy am bopeth sy'n ymwneud â'r byd blodau, heb sôn am y sgiliau amrywiol rwyf eisoes wedi'u dysgu a fydd yn fy helpu yn y dyfodol yn fy ngyrfa fel gwerthwr blodau.

close quote
open quote
close quote

Yn ystod y cyrsiau hyn, rwyf hefyd yn gwneud ychydig o waith i mi fy hun ac i deulu a ffrindiau, rwyf wedi gwneud rhai angladdau a fy mhriodas gyntaf, ac ni fyddwn wedi gallu gwneud unrhyw un ohonynt heb y gefnogaeth a gefais a'r sgiliau a enillais yn y cyrsiau.  Ym mis Hydref 2022, cefais fy swydd gyntaf fel gwerthwr blodau dan hyfforddiant mewn siop flodau leol, ac roeddwn i'n dwlu arni. Fodd bynnag, ar ddechrau mis Tachwedd, dechreuais leoliad newydd mewn siop flodau leol arall.

 

Mae bod yn werthwr blodau dan hyfforddiant wedi rhoi cymaint o gyfleoedd i fi fel creu trefniadau blodau mawr ar gyfer priodasau ac yna'u gosod yn eu lle ar y safle, dysgu sut i ddelio â chwsmeriaid sy'n galaru o ran blodau ar gyfer angladdau a lle i brynu blodau. Rwy'n dal i gymryd rhan mewn cyrsiau'r gwasanaeth Dysgu Gydol Oes yn ogystal â bod yn werthwr blodau dan hyfforddiant ac rwy'n dysgu cymaint am y diwydiant ac rwy'n gyffrous iawn i weld i ble y bydd fy ngyrfa mewn blodeuwriaeth yn mynd â fi.

Enghreifftiau o waith flodeuwriaeth JJ - Gwaith ar gyfer angladdau
Enghreifftiau o flodeuwriaeth waith JJ - Gwaith ar gyfer angladdau