Partneriaid Cymunedol

Partneriaid Cymunedol

Mae cydweithredu wrth wraidd popeth y mae Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe yn ei wneud. Rydym yn ymrwymedig i feithrin partneriaethau cryf sy'n cynyddu cyfleoedd i ddysgwyr ac yn cryfhau'r arlwy dysgu gydol oes sydd ar gael ledled Abertawe.


Rydym yn croesawu cyfleoedd i weithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau, gan gynnwys grwpiau cymunedol, sefydliadau yn y trydydd sector, cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a phartneriaid yn y sector preifat.


P'un a ydych yn awyddus i gydweithredu ar brosiect, rhannu adnoddau ac arbenigedd, darparu cyfleoedd dysgu ar y cyd, creu llwybrau dilyniant i ddysgwyr, neu archwilio syniad newydd, hoffem glywed gennych.


Gyda'n gilydd, gallwn helpu i greu cyfleoedd dysgu mwy hygyrch, cynhwysol ac ysgogol i oedolion ledled Abertawe.


Cysylltwch â ni i ddechrau'r sgwrs ac archwilio sut gallwn weithio gyda'n gilydd.

Mae MAD Abertawe'n elusen ieuenctid a chymunedol leol, gynhwysol, sy'n ymroddedig i wrthdlodi, wrth-hiliaeth a chydraddoldeb ac sy'n anoddefgar tuag at wahaniaethu ac anghyfiawnder. Mae MAD Abertawe'n gweithio ar gyfer byd teg, lle gall pobl fod yn nhw eu hunain a ffynnu!

Mae ein gwasanaethau digidol yn cynnwys mynediad am ddim at The National Databank a The National Device Bank, gan gynnig data, cardiau SIM a dyfeisiau digidol i leihau allgau digidol.

Rydym yn cynnal sesiynau sgiliau digidol Learn My Way, Tystysgrif Broffesiynol Deallusrwydd Artiffisial Google a Belonging Through Bytes, gan helpu pobl i fagu hyder ar-lein, cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus, dod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth, deall deallusrwydd artiffisial a chadw mewn cysylltiad â theulu a'r gymuned.

Rydym yn cynnal gweithdai creadigol digidol i bobl ifanc a'r gymuned eu mwynhau.

Mae ein hwb ar y Stryd Fawr yn dod â phobl at ei gilydd bob dydd er mwyn iddynt rannu bwyd, cael cynhesrwydd a chyfle i gysylltu.

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi dosbarthu cannoedd o ddyfeisiau a miloedd o gardiau SIM, wedi cefnogi dysgu digidol ar gyfer pob oedran, ac wedi meithrin partneriaethau ar draws de-orllewin Cymru i sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan lawn mewn cymdeithas.

Mae ein heffaith yn cael ei yrru gan gred syml: dylai pawb gael mynediad at yr offer yr wybodaeth a'r hyder i fyw, dysgu a ffynnu mewn byd cynyddol ddigidol.

Mae Menter Iaith Abertawe yn sefydliad cymunedol sy’n hyrwyddo’r defnydd a’r mwynhad o’r iaith Gymraeg ar draws Dinas a Sir Abertawe.

Trwy weithio gyda phobl o bob oedran, ardal, a chefndir ieithyddol, mae’r Fenter yn creu cyfleoedd i bobl defnyddio a mwynhau’r iaith yn eu bywydau pob dydd trwy ddigwyddiadau, gweithgareddau, prosiectau, a phartneriaethau.

Nod y Fenter yw gwneud y Gymraeg yn gyraeddadwy i bawb yn ardal Abertawe.

Os yr ydych am gymryd y cam cyntaf neu symud ymlaen i'r cam nesaf yn eich gyrfa addysg, Addysgwyr Cymru yw'r lle i chi gael mynediad i wybodaeth, hyfforddiant a chyfleoedd gyrfaol i'ch tywys yno.

Ble bynnag yr ydych ar eich taith, rydym ni yma i'ch helpu i fod yr addysgwr gorau y gallwch fod ac i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr yng Nghymru. Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu gweithlu addysg amrywiol sy’n cynrychioli Cymru gyfan yn well.