Catref

Dysgu Oedolion a Chymunedol
yn Ardal Abertawe

Gweithio gyda’n gilydd i ysbrydoli a thyfu

Mae “Swansea City Centre” gan Numero007 wedi'i drwyddedu o dan CC BY-SA 4.0

Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe

Pwy ydym ni?


Mae Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS) yn gweithio i ddarparu ystod eang o gyrsiau achrededig ac anachrededig ar draws dinas a sir Abertawe i ddiwallu anghenion dysgu amrywiol y dysgwyr.

Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe
UK Learning Cities Network

Mae Abertawe'n falch o fod yr unig Ddinas Dysg UNESCO yng Nghymru. Hyrwyddo Dysgu Gydol Oes i bawb.

Logo Coleg Gŵyr Abertawe
Logo Cyngor Abertawe
Logo Addysg Oedolion Cymru
Logo Prifysgol Abertawe
Logo Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Logo Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe
Logo Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe

DATGANIAD O FWRIAD

Fel aelod o Rwydwaith Byd-eang UNESCO o Ddinasoedd sy'n Dysgu, mae Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe wedi ymrwymo i ddarparu addysg hygyrch ac o ansawdd uchel i oedolion sy'n ddysgwyr o bob cefndir. Ein cenhadaeth yw grymuso ein dysgwyr â'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu nodau personol a phroffesiynol, a chreu cymuned gefnogol sy'n meithrin dysgu gydol oes. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiadau addysgol arloesol ac atyniadol sy'n diwallu anghenion amrywiol ein dysgwyr, ac i feithrin diwylliant o chwilfrydedd, archwilio a thwf. Ein nod yw ysbrydoli ein dysgwyr i ddod yn ddysgwyr gydol oes ac yn ddinasyddion gweithgar sy'n gwneud cyfraniadau cadarnhaol i'w cymunedau a'r byd o'u cwmpas.

Astudiaethau Achos a Straeon Newyddion Da

16/06/2026

Diwrnod Dysgu ac Addysgu'n dod â Phartneriaid Ynghyd i Rannu Arfer Gorau

36 o bobl yn sefyll ar risiau, yn gwenu ar y camera

Ar ddechrau mis Mai, croesawodd Ysgol Fusnes Neuadd Sgeti diwtoriaid o bob rhan o Bartneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe am ddiwrnod dysgu ac addysgu pwrpasol a oedd yn canolbwyntio ar rannu arfer gorau.


Cymerodd mwy na 40 o diwtoriaid o sefydliadau partner ran mewn amrywiaeth o sesiynau diddorol, gan gynnwys Arfer sy'n Ystyriol o Drawma, Sgiliau Digidol a Dwyieithrwydd, Technegau Estyn a Herio, a Dulliau Dysgu Gweithredol. Rhoddodd y diwrnod gyfle gwerthfawr i ymarferwyr gydweithredu, myfyrio ar eu gwaith ac archwilio dulliau newydd o wella deilliannau dysgwyr.


Gan fyfyrio ar y digwyddiad, meddai Kate Steadman, Rheolwr Datblygu Ansawdd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe:


“Roedd yn destun ysbrydoliaeth gweld cydweithwyr o bob rhan o'r bartneriaeth yn dod ynghyd i rannu arbenigedd, myfyrio ar ymarfer, ac ystyried dulliau dysgu ac addysgu newydd. Dangosodd y brwdfrydedd a'r cydweithrediad a welwyd drwy gydol y dydd gryfder ein hymrwymiad i welliant parhaus a rhagoriaeth i'n dysgwyr.”

07/07/2026

Dathlu Dysgu Oedolion yn Arddangosfa ALPS Abertawe

dyn mewn gwasgod lliwgar yn sefyll o flaen paentiadau lliwgar

Daeth dysgwyr, tiwtoriaid a phartneriaid at ei gilydd yn ddiweddar yn Llwyn y Bryn ar gyfer arddangosfa fywiog gan Bartneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS), a gynhaliwyd yn falch gan Goleg Gŵyr Abertawe. Dangosodd y digwyddiad greadigrwydd, hyder a chyflawniadau oedolion sy’n ddysgwyr o bob rhan o'r bartneriaeth, gan amlygu effaith drawsnewidiol dysgu gydol oes.


Cafodd yr ymwelwyr gyfle i fwynhau amrywiaeth eang o arddangosfeydd, megis dyfrlliwiau, gwaith gwnïo, crochenwaith a llawer mwy. Rhannodd llawer o ddysgwyr eu straeon, gan siarad yn hyderus am y sgiliau y maent wedi'u meithrin a'r gwahaniaeth cadarnhaol y mae dysgu wedi'i wneud i'w bywydau, eu lles a'u huchelgeisiau yn y dyfodol.


Cynigiodd yr arddangosfa fan croesawgar i bartneriaid gysylltu, dathlu llwyddiant ac archwilio cyfleoedd newydd i gydweithredu. Hefyd, atgyfnerthodd bwysigrwydd dysgu hygyrch yn y gymuned wrth gefnogi unigolion i wneud cynnydd, magu hyder a gwireddu eu potensial.


Mae'r bartneriaeth yn diolch yn ddiffuant i Goleg Gŵyr Abertawe am gynnal y digwyddiad, ac i'r holl ddysgwyr, tiwtoriaid a sefydliadau a gyfrannodd at ei lwyddiant. Roedd yr arddangosfa'n ffordd bwerus o ddangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan gaiff pobl eu helpu i ddysgu, datblygu a ffynnu.

24/01/2025

Lansiad Gŵyl Ddysgu Abertawe am flwyddyn o hyd yn 2025

Mynychwyr lansiad Gŵyl Ddysgu Abertawe yn 2025 am flwyddyn.

Diolch yn fawr i bawb a ymunodd gyda ni heddiw i ddathlu lansiad Gŵyl Ddysgu Abertawe am flwyddyn o hyd yn 2025, a chyflwyno'r digwyddiad newydd Rhwydwaith Dinasoedd sy’n Dysgu UNESCO'r DU. Mae'r dathliad yn nodi 10 mlynedd ers i Abertawe gael ei dynodi'n Ddinas sy'n Dysgu UNESCO.

 

Yn 2015, ni oedd y ddinas gyntaf yn y DU i ennill y wobr ac un o ddim ond 12 o ddinasoedd a ddyfarnwyd ledled y byd - sy'n cydnabod ymrwymiad Abertawe i ddysgu gydol oes, ymgysylltiad gyda'r gymuned ac arloesedd addysgol.

Heddiw yng Nghanolfan Dylan Thomas roedd arddangosfa o waith dysgwyr a nifer o berfformiadau cerddorol gan ysgolion, y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd a Choleg Gŵyr Abertawe.

 

Dilynwch grŵp Facebook Dinas sy'n Dysgu UNESCO Abertawe i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd dysgu rhad ac am ddim sydd ar gael drwy gydol 2025.

13/11/2024

Dysgwyr disglair yn nigwyddiad dathlu Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe

Mae siaradwr yn annerch cynulleidfa wrth fyrddau crwn, gyda sgrîn y tu ôl yn dangos logo Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe

Yr wythnos hon, cynhaliwyd digwyddiad i arddangos gwaith oedolion sy’n ddysgwyr er mwyn dathlu Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS). Cafodd y digwyddiad dathlu ei gynnal ar 7 Tachwedd ochr yn ochr â digwyddiad cynllunio UNESCO. Mynychodd grwpiau dysgu ffurfiol ac anffurfiol y digwyddiad er mwyn helpu i gynllunio dathliadau degfed pen blwydd Dyfarniad Dinas sy’n Dysgu UNESCO.


Cafodd ymwelwyr gyfle i sgwrsio â myfyrwyr gan ddysgu am y gwaith celf a oedd yn hongian ar waliau Neuadd Siôr yn Neuadd Brangwyn. Cyflwynwyd yr holl waith a arddangoswyd gan oedolion sy’n dysgu ar draws Abertawe.


Ariennir Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS) gan Lywodraeth Cymru a bwriad y bartneriaeth yw annog amrywiaeth o sefydliadau blaenllaw i weithio gyda’i gilydd i gynnig cyrsiau achrededig ac achrededig hyd a lled Abertawe, er mwyn diwallu anghenion amrywiol dysgwyr.


Hoffem ddiolch yr holl fyfyrwyr a staff sy’n rhan o’r bartneriaeth am rannu eu gwaith gwych ac am roi o’u hamser i fynd i’r digwyddiad.

darllenwch yr erthygl lawn